Elizabeth MaryLEWIS(Betty) (nee Talkington) Yn dawel ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 20, 2014 yn Ysbyty Glangwili yng nghwmni ei theulu bu farw Betty, Llwynhelyg, Wellfield Rd, Abergwili, Caerfyrddin; gwraig annwyl y diweddar Delme, mam gariadus Lilian a Lilwen, mamgu hoffus Alan, Stuart ac Ian, hen-famgu dyner Freddie a mam-yng-nghyfraith annwyl Duncan. Angladd dydd Mawrth, Rhagfyr 30, gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys y Plwyf Abergwili am 11yb a chladdedigaeth yng Nghapel y Groes, Peniel. Dim blodau, cyfraniadau er cof, os dymunir, tuag at Sefydliad Aren Cymru trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PG. Ffon. 01267 241626.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth